Sioeau Ysgol

Rydym yn arbenigo ar recordio sioeau ysgol.

Yn fras

Rydym yn recordio eich sioe ysgol am ddim! Does dim tric. Bydd angen i chi benderfyny ar faint eich archeb cyntaf o DVDs, a fydd yn gosod pris pob DVD. Mae pob sioe yn cael ei recordio ar 4 camera safon darlledu a'i olygu ar feddalwedd broffesiynol. Yna, bydd eich sioe yn cael ei pharatoi ar gyfer DVD - gyda dewislenni unigryw ar gyfer pob prosiect.

1) Cadarnhau'r dyddiad

Mae dyddiadau poblogaidd yn bwcio'n gyflym - cysylltwch yn gynnar! Bydd dim angen gwybod maint yr archeb eto, dim ond os mae'n debygol o fod yn llai na 30.

2) Cyn y sioe

Gofynnwch i'r technegydd sain am gyflenwad sain i ni o'r ddesg. Bydd angen lle ar gyfer ein prif gamera, ac un arall yn y cefn ar gyfer yr ail gamera.

3) Noson y sioe

Byddwn yn cyrraedd tua awr cyn ddechrau'r sioe er mwyn gosod a pharatoi. Byddwn yn siarad â'r technegydd sain cyn gosod y camerâu.

4) Gwaith Celf

Danfonwch eich poster atom fel bod clawr y DVD yn dilyn thema eich deunyddiau hyrwyddo.

5) Archebu

Rhowch wybod sawl copi sydd angen. Wrth i'r nifer gynyddu bydd pris pob DVD yn lleihau. Mae modd ail-archebu.

6) Mae'r DVDs yn cyrraedd

Bydd eich DVDs yn cyrraedd o fewn pythefnos i'r archeb. Bydd pob DVD wedi ei argraffu mewn lliw o fewn casyn unigryw. Bydd y dewislenni wedi eu creu'n arbennig.